Cwmni Egino is seeking expressions of interest to participate in Market Engagement. The company is keen to engage with technology providers – or companies which are aligned to a technology provider – as well as developers, client/licensee organisations, and potential funders who share their aim of being the first small scale nuclear development in the UK.
Cwmni Egino was established by the Welsh Government in 2021 to create sustainable job opportunities and promote economic and social regeneration by driving future development at the former nuclear power station site in Trawsfynydd. Their vision is for Trawsfynydd to be the site of the first small scale nuclear generation in the UK, with a target of being under construction by 2027.
The company will be undertaking Market Engagement with interested parties to identify potential solutions that meet their vision, define the requirements, and support a viable business proposition for the Project. This will enable the Project to progress to the next phase of development, and also inform any future procurement strategy.
Download Cwmni Egino’s information pack Cwmni Egino Market Engagement.
The closing date for Expressions of Interest is 5pm on the 5th of August. The form is available here .
Cwmni Egino yn ymgysylltu â’r farchnad
Mae Cwmni Egino yn gwahodd mynegiannau o ddiddordeb i gymryd rhan mewn proses ymgysylltu â’r farchnad. Maent yn awyddus i ymgysylltu â darparwyr technoleg – neu gwmnïau sy’n gysylltiedig â darparwr technoleg – yn ogystal â datblygwyr, trwyddedeion a chyllidwyr posibl, sy’n rhannu eu gweledigaeth ar gyfer datblygiad niwclear bychan cyntaf y DU yn Nhrawsfynydd.
Sefydlwyd Cwmni Egino gan Lywodraeth Cymru yn 2021 er mwyn creu cyfleoedd gwaith cynaliadwy a hyrwyddo adfywiad economaidd a chymdeithasol trwy hwyluso datblygiad ar safle’r orsaf bŵer niwclear yn Nhrawsfynydd. Eu gweledigaeth yw i Drawsfynydd fod y lleoliad cyntaf yn y DU ar gyfer datblygiad niwclear bychan, gyda’r nod o gychwyn adeiladu erbyn 2027
Mae’r cwmni yn cynnal proses ymgysylltu â sefydliadau sydd gyda diddordeb er mwyn adnabod opsiynau sy’n cwrdd â’u gweledigaeth, diffinio anghenion, a chefnogi cynnig busnes dichonadwy ar gyfer y Prosiect. Bydd hyn yn eu galluogi i symud ymlaen i ail gam y datblygiad, ac yn helpu gydag unrhyw strategaeth gaffael yn y dyfodol.
Gallwch lawrlwytho pecyn gwybodaeth Cwmni Egino Cwmni Egino Ymgysylltu a’r Farchnad.
Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb yw 5pm ar y 5ed o Awst. Mae’r ffurflen ar gael yma.