Heddiw, cyhoeddodd Great British Energy - Nuclear (GBE-N) mai enw’r orsaf bŵer niwclear newydd ger safle Wylfa yw Gorsaf Bŵer Gwyndod.

Gyda channoedd o awgrymiadau wedi’u cyflwyno gan bobl leol, dewiswyd yr enw terfynol gan banel o bobl ifanc o Ynys Môn, wedi’i chadeirio gan AS Ynys Môn, Llinos Medi, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens.

Gwahoddwyd y panel i ddewis enw sy’n cyfleu treftadaeth yr ardal a’r cyfle sydd i ddod, a thrwy eu cynnwys rydym yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod buddion niwclear newydd yn Wylfa yn elwa trigolion yr ynys heddiw ac am genedlaethau i ddod.

Dewiswyd yr enw oherwydd ei fod yn anrhydeddu hunaniaeth, gwytnwch, a chymeriad unigryw pobl yr ynys, gan osod y gymuned leol wrth galon hunaniaeth y cyfleuster. Daw’r enw o’r term hynafol am dafodiaith yr ardal, Gwyndodeg.

Dywedodd Prif Weithredwr GBE-N, Simon Roddy:

“Dyma destun balchder i’r prosiect ac ar gyfer yr orsaf bŵer newydd yr ydym yn ei hadeiladu ar Ynys Môn. Mae dewis enw yn golygu llawer mwy na geiriau ar dudalen, mae’n ymwneud â hunaniaeth, uchelgais, a safle Wylfa ar yr ynys am y ganrif sydd i ddod.

“Rydw i’n hynod falch bod pobl ifanc Ynys Môn wedi chwarae rôl mor ganolog yn y penderfyniad hwn. Mae eu cyfraniad yn adlewyrchu yn union pam mae hyn mor bwysig:  mae’r prosiect hwn yn ymwneud â chreu cyfleoedd hirdymor, cefnogi swyddi medrus, a helpu i sicrhau ffynhonnell lân a dibynadwy o bŵer ar gyfer y dyfodol. Nhw fydd yn elwa o’r dyfodol y bydd hyn yn ei greu.”

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens: 

 “Mae Llywodraeth y DU yn falch o ddod â niwclear yn ôl i Ynys Môn. Heddiw rydym wedi cyrraedd carreg filltir allweddol arall, gyda phobl ifanc o Ynys Môn yn helpu i ddewis enw’r orsaf bŵer newydd. Ar ôl blynyddoedd o oedi gan lywodraethau blaenorol, rydym yn cyflawni ein haddewid gyda buddsoddiad o dros £2.5 biliwn i’r safle.

“Mae’n addas bod yr enw wedi’i ddewis gyda chymorth pobl ifanc o’r ynys. Bydd y buddion y mae hyn yn ei gynnig i Ynys Môn i’w deimlo am genedlaethau i ddod. Miloedd o swyddi newydd, economi hynod gadarn yng Ngogledd Cymru, a rôl allweddol yn nyfodol annibyniaeth ynni y DU. Dyna’r dyfodol mae pobl ifanc Ynys Môn, a ledled Cymru, yn ei haeddu.”

Dywedodd Llinos Medi, AS Ynys Môn:

“Mae hwn yn ddiwrnod arbennig ar gyfer Ynys Môn. Rydw i’n ddiolchgar am yr holl enwau a gafodd eu cyflwyno, a’r esboniadau a ddaeth law yn llaw â nhw. Mae’r bobl ifanc a gymerodd ran ar y panel heddiw wedi gwneud yn arbennig o dda, ac wedi deall difrifoldeb ac arwyddocâd y dasg wrth law.

“Mae gennym ni enw ar gyfer y prosiect hwn sydd wirioneddol yn eiddo Ynys Môn.”

Ychwanegodd y Gweinidog Niwclear yr Arglwydd Vallance:

“Am dros 40 mlynedd, bu gweithwyr Wylfa yn rhan enfawr o bweru Prydain gydag ynni niwclear wedi’i gynhyrchu yng Ngogledd Cymru.

“Mae’n addas bod y gymuned sydd wrth wraidd oes euraidd niwclear Prydain yn gosod eu stamp eu hunain ar yr adweithyddion modiwlar bach a fydd yn cynhyrchu pŵer ar gyfer miliynau o gartrefi am ddegawdau.”

Back to the hub